Mae chwarel Penmaenmawr ar arfordir gogledd orllewin Cymru yn chwarel ithfaen sy’n cynhyrchu ac yn cyflenwi agregau, asffalt a choncrid sydd wedi’i gymysgu’n barod ar gyfer yr ardal gyfagos.

Mae'r safle wedi'i gysylltu â rheilffordd, sy'n ei alluogi i gyflenwi prosiectau adeiladu ar draws gogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr tra'n lleihau symudiadau cerbydau ar y rhwydwaith ffyrdd ehangach ac yn lleihau allyriadau carbon cysylltiedig.

Cyflogir tua 20 o bobl ym Mhenmaenmawr ar draws adrannau agregau, asffalt a choncrid y busnes, yn ogystal â llawer mwy ar draws ein cadwyn gyflenwi o gontractwyr a staff cymorth.

Rydyn ni’n frwd o blaid cefnogi mentrau a rhaglenni lleol sydd o fudd i’n cymuned a’n hamgylchedd lleol, gan gynnwys rhoddion ariannol a deunyddiau.
 

Darllenwch gwestiynau cyffredin am weithrediadau’r chwarel a buddsoddiad cymune…

Cysylltwch â ni

Ar gyfer pob ymholiad, e-bostiwch penmaenmawrquarry@uk.heidelbergmaterials.com 

Cyflenwyr

Cliciwch yma i ofyn am wybodaeth ynglŷn â sut i ddod yn gyflenwr.

Oriau gweithredu

Ein horiau gweithredu arferol, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, yw:

  • Chwarel: 06:00 i 18:00 (er bod gan y chwarel drwydded 24 awr i weithredu a gellir ymestyn yr oriau yn ôl yr angen)
  • Gwaith concrit: 07:00 i 19:00
  • Gwaith asffalt: 06:00 i 19:00 (ni ddylid llwytho deunyddiau bitwmen i'r gwaith cyn 07:00)
  • Ar gau ar ddydd Sul, gwyliau cyhoeddus a gwyliau banc (gellir ymestyn yr oriau yn amodol ar gytundeb â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy)

Mae'n bosib y bydd oriau agor y gwaith asffalt yn cael eu hymestyn oherwydd gwelliannau i'r priffyrdd dros nos. Rydyn ni’n cynnal gwiriadau amgylcheddol o'r gwaith asffalt bob bore, yn unol â’r hyn a nodwyd gan adrannau cynllunio mwynau ac iechyd amgylcheddol y cyngor, er mwyn monitro allyriadau posib y tu allan i’r safle, gan gynnwys llwch, sŵn ac arogleuon, sy’n cael eu riportio i’r awdurdod. Cynhelir gwiriadau gyda’r nos hefyd pan ganiateir gwaith y tu allan i oriau arferol.

Oriau cerbydau nwyddau trwm

Gall cerbydau sydd wedi'u llwytho fynd i mewn i'r safle a gadael y safle o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, rhwng 06:00 a 22:00. Caniateir pob math arall o draffig 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Oriau ffrwydro

Fel arfer, mae’r ffrwydro’n digwydd unwaith y mis. Mae ein caniatâd yn caniatáu ffrwydro  unrhyw bryd rhwng 09:00 a 16:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 10:00 a 13:00 ar ddydd Sadwrn.

Oriau trenau

Mae ein caniatâd presennol yn caniatáu i drenau fynd i mewn ac allan o'r seidins rheilffordd unrhyw bryd, ond mae’r llwytho wedi’i gyfyngu rhwng 06:00 a 18:00 bob dydd o’r flwyddyn.

Caiff amserlenni trenau eu pennu gan Network Rail, sy'n rhoi blaenoriaeth i drenau teithwyr yn ystod y dydd.
 

Ynglŷn â chwarel Penmaenmawr

Dechreuodd chwarela masnachol yn 1830.

Dechreuodd chwarela masnachol yn 1830, gan gynhyrchu setiau a balast rheilffyrdd yn ddiweddarach. Ffurfiwyd y Penmaenmawr and Welsh Granite Co Ltd yn 1911, yna cafodd ei ymgorffori gan gwmnïau eraill yn y 1960au a'r 1980au, gan barhau i weithredu heddiw dan berchnogaeth Heidelberg Materials.

Amserlen

1830  Gweithrediadau masnachol yn dechrau ar ôl sicrhau les ar gyfer y blaendraeth.
1848  Dyfodiad y rheilffordd rhwng Caer a Chaergybi yn cynyddu pwysigrwydd y chwarel, gyda'r rhan fwyaf o'i allbwn yn cael ei anfon ar y rheilffordd.
1878  Daeth teulu’r Darbishire yn ddylanwad amlwg y tu ôl i’r chwarel.
1881  Ehangodd y broses gynhyrchu i gynnwys balast ar gyfer rheilffyrdd.
1911  Ymunodd y chwarel ag eraill i ffurfio’r Penmaenmawr and Welsh Granite Co Ltd.
1921  Unodd y cwmni i ffurfio'r Penmaenmawr and Trinidad Lake Asphalt Company ond daeth y cwmni i ben yn 1954.
1960s  Cafodd y rheilffordd fewnol gul ei disodli gan lorïau, ac ymgorfforwyd y cwmni gan gwmni mwy.
1985  Amalgamated Roadstone Corporation (ARC) yn cymryd rheolaeth dros y chwarel.
1989  Hanson yn prynu ARC fel rhan o'i gaffaeliad o Consolidated Gold Fields.
2007  Daw Hanson yn is-gwmni HeidelbergCement.
2023  Hanson yn ail-frandio i ddod yn Heidelberg Materials.

Bioamrywiaeth

Rydyn ni’n cynnal gwaith adfer parhaus i greu mosaig o gynefinoedd sy’n cefnogi bywyd gwyllt lleol, gan gynnwys sefydlu rhostir ar draws rhannau o’r safle.
Drwy ddefnyddio eginblanhigion o ffynonellau lleol a dyfir yn ein twnnel polythen ar y safle bob blwyddyn, rydyn ni wedi bod yn cynyddu gorchudd grug yn gyson ar lethrau addas a hen ardaloedd gweithio.

Mae’r chwarel hefyd yn lleoliad nythu pwysig ar gyfer brain coesgoch Cymru. Mae ymweliadau rheolaidd gan adaregwyr arbenigol yn monitro’r broses fwydo, nythu ac unrhyw darfu posib.

Er mwyn cadw ardaloedd cyfagos y chwarel yn addas ar gyfer fforio, rydyn ni’n rheoli'r eithin yn yr ardaloedd hyn i atal dryslwyni trwchus rhag ffurfio ac i gynnal y glaswelltir pori agored byr y mae brain coesgoch yn dibynnu arnyn nhw.

Gyda'i gilydd, mae'r mesurau hyn yn cefnogi tirwedd sy'n cael ei hadfer yn raddol drwy blannu gweithredol, adfywio naturiol a rheolaeth, gan sicrhau bod y chwarel yn parhau i fod yn lle gwerthfawr i fywyd gwyllt a gweithrediadau chwarela cyfrifol.

Gyrfaoedd a phrentisiaethau

Mae gweithio yn Heidelberg Materials yn ymwneud â bod yn rhan o Un Tîm.

Rydyn ni’n gweithredu dros 300 o safleoedd gweithgynhyrchu yn y DU ac yn cyflogi dros 4,000 o bobl, gan gynnig amrywiaeth o yrfaoedd a chyfleoedd datblygu. Mae'r rhain yn cynnwys amrywiaeth eang o rolau, o weithwyr cynhyrchu, gweithredwyr peiriannau, peirianwyr, technegwyr a gyrwyr, i reolwyr gwerthu, TG, cyllid ac Adnoddau Dynol.

Mae ein rhaglen i raddedigion ar gyfer arbenigwyr mewn peirianneg, daeareg, marchnata neu ddisgyblaeth sy'n gysylltiedig â STEM, yn cynnig rhaglen ddwy flynedd wedi’i strwythuro sy'n cael ei lleoli mewn amrywiaeth o leoliadau ledled y DU.

Rydyn ni hefyd yn cynnig amrywiaeth o brentisiaethau, sy'n rhoi cyfle i chi ennill cyflog tra'ch bod yn dysgu, yn ogystal â'r cyfle i sicrhau cymwysterau gwerthfawr yn y diwydiant.

Mae'r rhain yn cynnwys uwch raglen brentisiaethau tair blynedd, sy'n cynnig y camau cyntaf tuag at yrfaoedd amrywiol yn ein sector, o oruchwylwyr safle i dirfesur meintiau, yn ogystal â phrentisiaethau eraill ar gyfer rolau fel gweithredwyr peiriannau a pheirianwyr mecanyddol.

I gael mwy o wybodaeth am ein rhaglenni prentisiaethau i raddedigion, cyfleoedd ar gyfer gyrfa a swyddi gwag cyfredol, yn ogystal â manylion ar sut i wneud cais, ewch i'n gwefan gyrfaoedd.

Gwefan gyrfaoedd

Newyddion

Cysylltiad rheilffordd Penmaenmawr yn ail-agor ar ôl degawd

Penmaenmawr rail link

Ail-agorodd ein pen rheilffordd ym Mhenmaenmawr yng ngogledd Cymru fel rhan o strategaeth reilffordd y DU i leihau symudiadau cerbydau a lleihau allyriadau CO2 cysylltiedig.

Darllenwch fwy

Cysylltu â’r gymuned

Rydyn ni wedi ymrwymo i gyfathrebu’n agored ynglŷn â'n gwaith ac i drafod materion a phrosiectau lleol drwy bwyllgor cyswllt y chwarel.

Mae pwyllgor cyswllt y chwarel yn cynnwys cynrychiolwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Tref Penmaenmawr a thrigolion lleol.

Os ydych yn cynrychioli grŵp lleol ac yn dymuno cael eich ystyried fel aelodau, cysylltwch â ni.

Cofnodion cyfarfodydd

 

Quarry Liaison Meeting 16 July 2026 357.4 KB

 

Quarry Liaison Meeting 16 October 2025 210.69 KB
E-bostiwch ni

Cefnogi’r gymuned

Fel gweithredwr cyfrifol, rydyn ni eisiau chwarae ein rhan wrth gefnogi cymunedau lle rydyn ni’n gweithredu yn ogystal â diogelu a gwella'r amgylchedd lleol.

Rydyn ni’n croesawu ymweliadau gan ysgolion, colegau, sgowtiaid, geidiaid a grwpiau eraill i'n safle, yn cynnal diwrnodau agored ac yn cefnogi amrywiol brosiectau yn y gymuned lle rydyn ni’n gweithredu.

Mae hyn yn cynnwys teithiau blynyddol o’r chwarel mewn cydweithrediad ag amgueddfa  Penmaenmawr.

Yn ogystal, mae elusennau lleol a grwpiau cymunedol wedi elwa o roddion arian, deunyddiau ac amser, trwy ddiwrnodau gwirfoddoli ein gweithwyr.

Ein ffordd o weithio yw rhoi blaenoriaeth i gefnogi mentrau:

  • Hyrwyddo addysg, sgiliau a lles
  • Diogelu a/neu wella'r amgylchedd
  • Cefnogi bioamrywiaeth a chynaliadwyedd
  • Hyrwyddo’r gymuned a threftadaeth yr ardal

Mae rhoddion ariannol a deunyddiau yn cael blaenoriaeth i grwpiau o fewn radiws o dair milltir o chwarel Penmaenmawr a gwaith gwirfoddol o fewn 10 milltir i'n safle.

Gofyn am rodd

Cliciwch yma i ofyn am rodd ariannol, deunyddiau, neu gymorth gwirfoddol. Rhowch wybodaeth i ni am eich grŵp a/neu eich prosiect, pa fath o gymorth rydych yn chwilio amdano, a sut mae nodau eich prosiect yn cyd-fynd â’n blaenoriaethau uchod.

Grwpiau sydd wedi elwa’n ddiweddar

  • Clwb Golff Penmaenmawr - 20 tunnell o agregau
  • Clwb Bowlio Dwygyfylchi– 12 tunnell o agregau
  • Ysgol Mountain Lane, Bwcle – 4 tunnell o agregau
  • Forever Young Forest yn Escape Camping, Caersws – 16 tunnell o agregau
  • Cyngor Tref Penmaenmawr– 50 tunnell o agregau
  • Clwb Pêl-droed Phoenix Penmaenmawr – 30 tunnell o agregau, 3.5m³ o goncrit
  • Ysgol Gynradd Pencae, Penmaenmawr – 30 tunnell o agregau
  • Clwb Pêl-droed Llanfairfechan – 6 tunnell o agregau, 4m³ o goncrit
  • Eglwys Sant Paul – 1.2 tunnell o agregau
Gofyn am rodd